Haggai 1

Cyflwyniad

1Ar ddiwrnod cynta'r chweched mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius
1:1 chweched mis … Dareius Roedd mis Elwl yn calendr Babilon yn cyfateb i chweched mis y calendr Hebreig, o tua canol Awst i ganol Medi. Mae'r dyddiad yma'n cyfateb i Awst 29, 520 CC yn ein calendr ni. Dareius Hystaspes, oedd yn teyrnasu ar Ymerodraeth Persia o 522 i 486 CC
, dyma'r proffwyd Haggai yn rhoi'r neges yma gan yr Arglwydd i Serwbabel fab Shealtiel
1:1 Serwbabel fab Shealtiel Roedd Serwbabel yn ŵyr i Jehoiachin, brenin Jwda, gafodd ei gymryd yn gaeth i Babilon yn 597 CC (gw. 2 Brenhinoedd 24:15)
, llywodraethwr Jwda, a hefyd i Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad:

2Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud: “Mae'r bobl yma'n dweud, ‘Mae'n rhy fuan i ni ailadeiladu teml yr Arglwydd.’”

Duw yn gorchymyn ailadeiladu'r Deml

3A dyma'r proffwyd Haggai yn rhoi'r neges yma gan yr Arglwydd:

4“Ydy hi'n iawn eich bod chi'n byw yn eich tai crand,
tra mae'r deml yma yn adfail?

5Felly dyma mae yr Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud:

‘Meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!

6Dych chi wedi hau digon, ond bach iawn ydy'r cynhaeaf;
dych chi'n bwyta, ond byth yn cael eich llenwi;
dych chi'n yfed, ond heb gael eich bodloni;
dych chi'n gwisgo dillad, ond yn methu cadw'n gynnes;
mae fel petai'r cyflog mae pobl yn ei ennill
yn mynd i bwrs sydd a thwll ynddo!

7Ie, meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!’


—meddai'r Arglwydd holl-bwerus.
8‘Ewch i'r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu'r deml;
bydd hynny'n fy mhlesio,
a bydd pobl yn fy mharchu,’ meddai'r Arglwydd.
9‘Roeddech chi'n disgwyl cnydau da,
ond yn cael cnydau gwael.
Roeddech chi'n ei gasglu,
ond yna byddwn i'n ei chwythu i ffwrdd!’

—meddai'r Arglwydd holl-bwerus.

‘Pam? – Am fod fy nhŷ i yn adfeilion, a chithau'n rhy brysur yn poeni amdanoch chi'ch hunain!

10Dyna pam mae'r awyr heb roi gwlith,
a'r tir wedi peidio tyfu cnydau.
11Fi sydd wedi anfon sychder drwy'r wlad –
ar y bryniau,
ar yr ŷd a'r grawnwin a'r olewydd
a phopeth arall sy'n tyfu o'r ddaear,
ar bobl ac anifeiliaid,
ac ar ffrwyth eich holl waith caled.’”

Y bobl yn ufuddhau

12Dyma Serwbabel fab Shealtiel, Jehoshwa fab Iehotsadac yr archoffeiriad, a phawb arall, yn gwneud beth roedd yr Arglwydd eu Duw yn ei ddweud, a gwrando ar neges Haggai, y proffwyd roedd e wedi ei anfon. Roedd y bobl yn parchu'r Arglwydd eto.

13Yna dyma Haggai, negesydd yr Arglwydd, yn rhoi neges arall gan Dduw i'r bobl, “‘Dw i gyda chi,’ meddai'r Arglwydd.”

14Dyma'r Arglwydd yn sbarduno Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda a Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad, a phawb arall hefyd: a dyma nhw'n bwrw iddi â'r gwaith o adeiladu teml eu Duw, yr Arglwydd holl-bwerus. 15Dechreuodd y gwaith ar y pedwerydd ar hugain o'r chweched mis
1:15 pedwerydd ar hugain … mis sef 23 diwrnod ar ôl i Haggai gyflwyno ei neges gyntaf – gw. Haggai 1:1. Mae'r dyddiad yma'n cyfateb i Medi 21, 520 CC yn ein calendr ni.
.

Copyright information for CYM